Archive for calls, 2012

[Previous message][Next message][Back to index]

[ecrea] Call for papers - Creative Industries Postgraduate Conference Wales

Fri Jul 06 06:57:01 GMT 2012




Creative Industries

Postgraduate Conference Wales



21 September 2012

Atrium, Glamorgan University



CALL FOR PAPERS

Closing Date for Submissions: 20 July 2012



We are currently seeking papers for the first Creative Industries Postgraduate Conference Wales which will be held in the Atrium, University of Glamorgan, Cardiff. This is a bilingual conference with two main aims, which are to give postgraduate students an opportunity to present their research in a constructive and supportive environment, and secondly, as means to create a national community of postgraduate students within the creative industries.



We invite paper submissions from students who are studying towards a MA, MA through Research (MRes), MPhil or PhD degree.



We are eager to receive applications from students who are studying any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and Performance in the context of Wales OR if you are a student who is researching any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and Performance in an international context but writing your research thesis through the medium of Welsh.



We therefore welcome paper proposals in the Welsh or English language.



In addition to the paper presentations by postgraduate students, the aim of the conference is to organise sessions which will give students the opportunity to consider how to publish their research and how to make their work relevant to a wider audience. There will also be an opportunity to meet leading academics in the field of the creative industries who will be responding to your presentations and advising you on your work, in order to support your development as young researchers.



The best paper presented during the conference will be considered for publishing in either Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru or in the Coleg Cymraeg Cenedlaethol journal Gwerddon. Further information on this opportunity will be made available soon.



Papers should be no more than 20 minutes in length. Please send proposals of around 300 words, and a short biography, which states in which year of your studies you are currently, to the following address: (e.price /at/ swansea.ac.uk) Please also note your technical requirements for the presentation of your paper.



The conference is co-organised by Swansea University, Aberystwyth University and Glamorgan University. Further information regarding the timetable will be made available soon, but note that there will not be a delegate fee for the conference and that refreshments will be provided free of charge for all delegates, due to funding from the following organisations.



We look forward to hearing from you, sharing ideas and discussing your work with you.



Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd

Diwydiannau Creadigol Cymru



21 Medi 2012

Atrium, Prifysgol Morgannwg



GALWAD AM BAPURAU

Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 20 Gorffennaf 2012



Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer cynhadledd gyntaf Myfyrwyr ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru a gynhelir yn yr Atrium, Prifysgol Morgannwg, Caerdydd. Cynhadledd ddwyieithog yw hon ag iddi ddau brif nod, sef rhoi cyfle i ôl-raddedigion gyflwyno ffrwyth eu hymchwil a hynny mewn awyrgylch gefnogol ac adeiladol, ac yn ail, bydd yn fodd o greu cymuned genedlaethol o fyfyrwyr ôl-radd ym maes y diwydiannau creadigol.



Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion ifanc sydd yn astudio tuag at radd MA, MA trwy ymchwil, MPhil neu PhD.



Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd yn astudio unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio yng nghyd-destun Cymru NEU os ydych yn fyfyriwr sydd yn edrych ar unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio mewn cyd-destun rhyngwladol ac yn llunio eich traethawd ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.



Croesewir, felly, bapurau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.



Yn ogystal â llwyfannu cyflwyniadau papurau gan fyfyrwyr ôl-radd, nod y gynhadledd yw trefnu sesiynau a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil ystyried sut i fynd ati i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil, a sut i wneud yr ymchwil yn berthnasol i gynulleidfa ehangach. Bydd cyfle hefyd i gwrdd ag academyddion blaenllaw ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn ymateb i'ch cyflwyniadau ac yn eich cynghori er mwyn cefnogi'ch datblygiad fel ymchwilydd ifanc.



Bydd papur gorau’r gynhadledd hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru neu gyfnodolyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon. Darperir mwy o fanylion am y cyfle hwn maes o law.



Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd. Danfonwch gynigion o oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr sydd yn nodi ym mha flwyddyn o’ch hastudiaeth yr ydych ar hyn o bryd, i'r cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: (e.price /at/ abertawe.ac.uk) Nodwch hefyd unrhyw adnoddau fydd eu hangen arnoch er mwyn gallu cyflwyno'r papur.



Caiff y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Morgannwg. Darperir mwy o wybodaeth am amserlen y gynhadledd maes o law, ond noder na fydd tâl cofrestru ar gyfer y gynhadledd a bydd lluniaeth wedi'i ddarparu am ddim i bob cynadleddwr, diolch i nawdd y sefydliadau canlynol.



Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac i rannu syniadau â chi ac i gyd-drafod.



Branwen Lloyd

Academi Hywel Teifi
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
01792 295192
www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi


----------------
ECREA-Mailing list
----------------
This mailing list is a free service from ECREA.
---
To unsubscribe, please visit http://www.ecrea.eu/mailinglist
---
ECREA - European Communication Research and Education Association
Postal address:
ECREA
Université Libre de Bruxelles
c/o Dept. of Information and Communication Sciences
CP123, avenue F.D. Roosevelt 50, b-1050 Bruxelles, Belgium
Email: (info /at/ ecrea.eu)
URL: http://www.ecrea.eu
----------------

[Previous message][Next message][Back to index]