Archive for calls, 2013

[Previous message][Next message][Back to index]

[ecrea] CFP: Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru/Creative Industries Postgraduate Conference Wales/GALWAD AM BAPURAU / CALL FOR PAPERS

Mon Aug 19 09:23:40 GMT 2013




Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru

Creative Industries Postgraduate Conference Wales



15 Tachwedd / November 2013

Prifysgol Aberystwyth University



GALWAD AM BAPURAU / CALL FOR PAPERS

(Scroll down for English version)

Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 30 Medi 2013

Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer ail gynhadledd Myfyrwyr ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cynhadledd ddwyieithog yw hon ag iddi ddau brif nod, sef rhoi cyfle i ôl-raddedigion gyflwyno ffrwyth eu hymchwil a hynny mewn awyrgylch gefnogol ac adeiladol, ac yn ail, bod yn fodd o greu cymuned genedlaethol o fyfyrwyr ôl-radd ym maes y diwydiannau creadigol.



Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion sydd yn astudio tuag at radd MA, MA trwy ymchwil, MPhil neu PhD.



Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd yn astudio unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio yng nghyd-destun Cymru NEU geisiadau gan fyfyrwyr sydd yn edrych ar unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio mewn cyd-destun rhyngwladol ac sydd yn ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg.



Croesewir cynigion yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac fe anogir cyflwyniadau yn y Gymraeg.



Yn ogystal â llwyfannu cyflwyniadau papurau gan fyfyrwyr ôl-radd, fe fydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil ystyried sut i fynd ati i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil, a sut i wneud yr ymchwil yn berthnasol i gynulleidfa ehangach. Bydd cyfle hefyd i gwrdd ag academyddion blaenllaw ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn ymateb i'ch cyflwyniadau ac yn eich cynghori er mwyn cefnogi'ch datblygiad fel ymchwilydd ar ddechrau gyrfa.



Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd. Danfonwch gynigion o oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr sydd yn nodi ym mha flwyddyn o astudio yr ydych ar hyn o bryd, i'r cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: (anr40 /at/ aber.ac.uk). Nodwch hefyd unrhyw adnoddau fydd eu hangen arnoch er mwyn gallu cyflwyno'r papur.



Cefnogir y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eleni fe’i trefnir ar y cyd gan Brifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Phrifysgol De Cymru. Darperir mwy o wybodaeth am amserlen y gynhadledd maes o law, ond noder na fydd tâl cofrestru ar gyfer y gynhadledd a bydd lluniaeth wedi'i ddarparu am ddim i bob cynadleddwr, diolch i nawdd y sefydliadau canlynol. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac i rannu syniadau â chi ac i gyd-drafod.



CALL FOR PAPERS

Closing Date for Submissions: 30 September 2013

We are currently seeking papers for the second Creative Industries Postgraduate Conference Wales which will be held at Aberystwyth University. This is a bilingual conference with two main aims: firstly, to provide postgraduate students with an opportunity to present their research in a constructive and supportive environment, and secondly, to create a national community of postgraduate students in the field of creative industries.



We invite paper submissions from students who are studying for MA, MA through Research (MRes), MPhil or PhD degree.



We are eager to receive applications from students who are studying any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and Performance in the context of Wales OR equally from students who are researching any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and Performance in an international context but conducting research through the medium of Welsh.



We welcome papers in Welsh or English and particularly encourage presentation in Welsh.



In addition to the paper presentations by postgraduate students, the aim of the conference is to organise sessions which will give students the opportunity to consider how to publish their research and how to communicate their work to a wider audience. There will also be an opportunity to meet leading academics in the field of the creative industries who will be able to respond to your presentations and advise you on your work, in order to support your development as early career researchers.



Papers should be no more than 20 minutes in length. Please send proposals of around 300 words, and a short biography, which states in which year of your studies you are currently, to the following address: (anr40 /at/ aber.ac.uk) Please also note your technical requirements for the presentation of your paper.



The conference is supported by Coleg Cymraeg Cenedlaethol and co-organised by Aberystwyth University, Bangor University, Swansea University and the University of South Wales. Further information regarding the timetable will be made available soon, but note that there will not be a delegate fee for the conference and that refreshments will be provided free of charge for all delegates. We look forward to hearing from you, discussing your work and sharing ideas.





----------------
ECREA-Mailing list
----------------
This mailing list is a free service from ECREA.
---
To unsubscribe, please visit http://www.ecrea.eu/mailinglist
---
ECREA - European Communication Research and Education Association
Postal address:
ECREA
Universit�ibre de Bruxelles
c/o Dept. of Information and Communication Sciences
CP123, avenue F.D. Roosevelt 50, b-1050 Bruxelles, Belgium
Email: (info /at/ ecrea.eu)
URL: http://www.ecrea.eu
----------------

[Previous message][Next message][Back to index]