Archive for calls, 2014

[Previous message][Next message][Back to index]

[ecrea] CFP: Creative Industry: Bridging theory and practice - 10th Anniversary Cyfrwng Conference. Bangor, July 2014

Sat Jan 11 03:15:05 GMT 2014



Call for Papers - 10th Anniversary Cyfrwng Conference.

Creative industry: Bridging theory and practice

24th and 25th of July, 2014

Bangor, Wales, UK


Conference Theme

Over the past decade, Cyfrwng has worked to build bridges between the scholarly community and the creative industries in Wales. The aim of this conference is to examine the relationship between theoretical and practical approaches to the media, film, performance, writing, music and the creative industries more generally. Proposals are invited from academics, practitioners and those who seek to combine both roles.

Areas of interested may include, but are not limited to

    *
      The development of the creative industries in Wales and beyond
    *
      Practice-led approaches to research and scholarship
    *
      Production studies as an academic discipline
    *
      The theory and practice of cultural work
    *
      Media education and training
    *
      Partnerships between industry and academia


Proposals which focus on Wales, the Celtic nations, minority and lesser-used languages and smaller nations will be prioritised when selecting participants. However, proposals that examine the conference themes from all nations and regions will be considered.

Cyfrwng's 10th Anniversary

Cyfrwng is the Welsh association for media studies and associated disciplines. Formed at Bangor in 2004, Cyfrwng has spent the past decade working with academics and media professionals both in Wales and beyond. As Cyfrwng enters into its second decade, it is keen to expand the scope of its activities, and to increase its engagement with both academics and practitioners the world over.

Keynote speakers

Prof. Mike Pearson (Aberystwyth University) Confirmed

Prof. Pearson is a highly respected academic who has written extensively on the relationship between performance and place. His books include a history of the Mickery Theatre in Amsterdam and a highly influential work on site-specific theatre. In addition to his scholarly work, Prof. Pearson remains active in the field of performance, most recently working as dramaturg and co-director on the National Theatre Wales / Royal Shakespeare Company's site-specific production of Coriolan/us that formed part of the 2012 Cultural Olympiad.

Prof. Joram ten Brink (University of Westminster) Confirmed

Prof. Ten Brink is the director of the Centre for Production and Research in Documentary Film (CPRD) at the University of Westminster. He has worked as a director and writer of film and TV in the UK, Holland, Israel, Austria and other European countries. His films and videos have been shown internationally on broadcast television and at major film festivals , film venues and galleries. He recently worked as a Producer / Executive Producer on award winning documentary film The Act of Killing (Oppenheimer and ten Brink, 2012), which has been short-listed for the 2014 Best Documentary Feature Oscar.

Betsan Powys (BBC) Invited

In May 2013 Betsan Powys was appointed to the role of Radio Cymru Editor of Programmes. Before her appointment, she had worked as BBC Cymru Wales’ Political Editor since 2006, Betsan led the BBC Wales politics team in both an editorial and management role. She’s also part of the wider BBC Wales news management team. Betsan has a vast amount of experience reporting and presenting in both English and Welsh on a wide range of subjects on news and current affairs programmes, including Panorama, Week In Week and Y Byd ar Bedwar. She was also BBC Cymru Wales’ Arts and Media correspondent and presented Mastermind Cymru on S4C.


Submissions

Cyfrwng invites submissions for individual papers, panels, screenings, readings or performances related to the conference theme. Papers, panels and readings may be delivered through the medium of Welsh or English. Proposals for performances and screenings in languages other than Welsh or English will be considered.


Proposals for panels and individual papers can be submitted by email to (dyfrig.jones /at/ bangor.ac.uk)


Abstracts should be written either in English or Welsh and contain a clear outline of the argument, the theoretical framework, and, where applicable, methodology and results. The preferred length of the individual abstracts is between 250 and 400 words. Panel proposals, which should consist of three individual contributions, should combine a panel abstract with five individual abstracts, each of which are between 250 and 400 words.


Deadline for abstracts: 15 February 2014
Notification of Acceptance: 15 March 2014


Galwad am Bapurau - Cynhadledd Dengmlwyddiant Cyfrwng

Diwydiant creadigol: Pontio theori ac ymarfer

24 a 25 Gorffennaf, 2014

Bangor, Cymru, DU


Thema’r Gynhadledd

Ers degawd, mae Cyfrwng wedi gweithio i godi pontydd rhwng y gymuned ysgolheigaidd a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Nod y gynhadledd hon yw archwilio’r berthynas rhwng ymdriniaethau theoretig ac ymarferol o’r cyfryngau, ffilm, perfformiad, ysgrifennu, cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol yn fwy cyffredinol. Gwahoddir cynigion oddi wrth academyddion, ymarferwyr a’r rheiny sy’n ceisio cyfuno’r ddwy rôl.

Gall meysydd o ddiddordeb gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

    *
      Datblygiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r tu hwnt.
    *
      Dulliau â phwyslais ar ymarfer o ymdrin ag ymchwil ac ysgolheictod.
    *
      Astudiaethau cynhyrchu fel disgyblaeth academaidd.
    *
      Theori ac ymarfer gwaith diwylliannol.
    *
      Addysg a hyfforddiant ym maes y Cyfryngau.
    *
      Partneriaethau rhwng diwydiant a’r byd academaidd.


Pan ddewisir cyfranogwyr, cynigion sy’n canolbwyntio ar Gymru, y gwledydd Celtaidd, ieithoedd lleiafrifol ac â defnydd llai a chenhedloedd llai a gaiff flaenoriaeth. Fodd bynnag, ystyrir cynigion sy’n archwilio themâu’r gynhadledd o’r holl genhedloedd a rhanbarthau.

Dengmlwyddiant Cyfrwng

Cyfrwng yw’r gymdeithas yng Nghymru ar gyfer astudiaethau’r cyfryngau a disgyblaethau cysylltiedig. Sefydlwyd Cyfrwng ym Mangor yn 2004 ac, ers degawd, mae wedi gweithio gydag academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, yng Nghymru a’r tu hwnt. Wrth i Cyfrwng gychwyn ar ei ail ddegawd, mae’n awyddus i ehangu ar rychwant ei weithgareddau, ac i gynyddu ei gysylltiad ag academyddion ac ymarferwyr ar draws y byd.

Prif siaradwyr

Yr Athro Mike Pearson (Prifysgol Aberystwyth) Cadarnhawyd

Mae’r Athro Pearson yn academydd uchel ei barch sydd wedi ysgrifennu’n helaeth ar y berthynas rhwng perfformiad a lle. Mae ei lyfrau yn cynnwys hanes Theatr y Mickery yn Amsterdam, a llyfr dylanwadol iawn ar theatr safle-benodol. Yn ogystal â’i waith academaidd, mae’r Athro Pearson yn parhau’n weithgar ym maes perfformio, ac wedi gweithio’n fwyaf diweddar fel dramodydd a chyd-gyfarwyddwr ar gynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru/ Cwmni’r Royal Shakespeare o Coriolan/us a fu’n rhan o’r Olympiad Diwylliannol.

Yr Athro Joram ten Brink, (Prifysgol Westminster) Cadarnhawyd

Mae’r Athro Ten Brink yn gyfarwyddwr ar y Ganolfan Cynhyrchu ac Ymchwil mewn Ffilm Ddogfennol (CPRD) ym Mhrifysgol Westminster. Bu’n gweithio fel cyfarwyddwr ac awdur ar gyfer ffilm a theledu yn y DU, yr Iseldiroedd, Israel, Awstria ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae ei ffilmiau a’i fideos wedi’u dangos ar raddfa ryngwladol, ar y teledu ac mewn gwyliau ffilm o bwys, lleoliadau ffilmiau ac orielau. Yn ddiweddar, bu’n gweithio fel Cynhyrchydd / Cynhyrchydd Gweithredol ar y ffilm ddogfennol arobryn The Act of Killing (Oppenheimer a ten Brink, 2012), a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Oscar 2014 am y Ffilm Nodwedd Ddogfennol Orau.

Betsan Powys (BBC) Wedi’i Gwahodd

Ym Mai 2013, penodwyd Betsan Powys yn Olygydd Rhaglenni Radio Cymru. Cyn ei phenodiad, bu’n Olygydd Gwleidyddol i BBC Cymru Wales er 2006; bu Betsan yn arwain tîm gwleidyddiaeth BBC Cymru mewn swyddogaeth olygyddol a rheolaethol. Mae hi hefyd yn rhan o dîm ehangach BBC Cymru ar gyfer rheoli newyddion. Mae gan Betsan brofiad helaeth o waith gohebu a chyflwyno, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny ar amrywiaeth eang o bynciau ar raglenni newyddion a materion cyfoes, yn cynnwys Panorama, Week In Week Out ac Y Byd ar Bedwar. Bu hefyd yn ohebydd ar y Celfyddydau a’r Cyfryngau i BBC Cymru ac yn cyflwyno Mastermind Cymru ar S4C.


Cyfraniadau

Mae Cyfrwng yn gwahodd cyflwyniadau ar gyfer papurau unigol, panelau, dangosiadau, darlleniadau neu berfformiadau sy’n berthnasol i thema’r gynhadledd. Mae modd cyflwyno papurau, panelau a darlleniadau trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Ystyrir cynigion ar gyfer perfformiadau a dangosiadau mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg.


Gellwch gyflwyno cynigion ar gyfer panelau a phapurau unigol trwy e-bost i (dyfrig.jones /at/ bangor.ac.uk)


Dylech ysgrifennu crynodebau yn Gymraeg neu’n Saesneg, a dylent gynnwys amlinelliad clir o’r ddadl, o’r fframwaith theoretig a, lle bo’n berthnasol, methodoleg a chanlyniadau. Rhwng 250 a 400 o eiriau yw hyd dewisol y crynodebau unigol. Dylai cynigion ar gyfer panelau gynnwys tri chyfraniad unigol a chyfuno crynodeb panel â phum crynodeb unigol, a phob un ohonynt rhwng 250 a 400 o eiriau.


Dyddiad cau ar gyfer crynodebau: 15 Chwefror 2014
Hysbysu bod cyfraniadau wedi’u derbyn: 15 Mawrth 2014


Dyfrig Jones
Darlithydd / Lecturer
Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau/
School of Creative Studies and Media,
Prifysgol Bangor / Bangor University,
Bangor,
Gwynedd,
Cymru / Wales,
Prydain / Britain,
LL57 2DG

(dyfrig.jones /at/ bangor.ac.uk)
(+44)1248 388456



---------------
ECREA-Mailing list
---------------
This mailing list is a free service from ECREA and Nico Carpentier.
--
To subscribe, post or unsubscribe, please visit
http://www.ecrea.eu/mailinglist
--
ECREA - European Communication Research and Education Association
--
Postal address:
ECREA
Chauss�de Waterloo 1151
1180 Uccle
Belgium
--
Email: (info /at/ ecrea.eu)
URL: http://www.ecrea.eu
---------------

[Previous message][Next message][Back to index]