[Previous message][Next message][Back to index]
[ecrea] CFP: Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru/Creative Industries Postgraduate Conference Wales/GALWAD AM BAPURAU / CALL FOR PAPERS
Mon Aug 19 09:23:40 GMT 2013
Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd Diwydiannau Creadigol Cymru
Creative Industries Postgraduate Conference Wales
15 Tachwedd / November 2013
Prifysgol Aberystwyth University
GALWAD AM BAPURAU / CALL FOR PAPERS
(Scroll down for English version)
Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 30 Medi 2013
Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer ail gynhadledd Myfyrwyr ôl-radd
Diwydiannau Creadigol Cymru a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynhadledd ddwyieithog yw hon ag iddi ddau brif nod, sef rhoi cyfle i
ôl-raddedigion gyflwyno ffrwyth eu hymchwil a hynny mewn awyrgylch
gefnogol ac adeiladol, ac yn ail, bod yn fodd o greu cymuned
genedlaethol o fyfyrwyr ôl-radd ym maes y diwydiannau creadigol.
Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion sydd yn astudio tuag at radd MA,
MA trwy ymchwil, MPhil neu PhD.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd yn astudio unrhyw
agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd,
Theatr a Pherfformio yng nghyd-destun Cymru NEU geisiadau gan fyfyrwyr
sydd yn edrych ar unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio,
Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio mewn cyd-destun
rhyngwladol ac sydd yn ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Croesewir cynigion yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac fe anogir cyflwyniadau
yn y Gymraeg.
Yn ogystal â llwyfannu cyflwyniadau papurau gan fyfyrwyr ôl-radd, fe
fydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil ystyried sut i fynd
ati i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil, a sut i wneud yr ymchwil yn
berthnasol i gynulleidfa ehangach. Bydd cyfle hefyd i gwrdd ag
academyddion blaenllaw ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn ymateb
i'ch cyflwyniadau ac yn eich cynghori er mwyn cefnogi'ch datblygiad fel
ymchwilydd ar ddechrau gyrfa.
Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd. Danfonwch gynigion o
oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr
sydd yn nodi ym mha flwyddyn o astudio yr ydych ar hyn o bryd, i'r
cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: (anr40 /at/ aber.ac.uk). Nodwch hefyd
unrhyw adnoddau fydd eu hangen arnoch er mwyn gallu cyflwyno'r papur.
Cefnogir y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eleni fe’i
trefnir ar y cyd gan Brifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a
Phrifysgol De Cymru. Darperir mwy o wybodaeth am amserlen y gynhadledd
maes o law, ond noder na fydd tâl cofrestru ar gyfer y gynhadledd a bydd
lluniaeth wedi'i ddarparu am ddim i bob cynadleddwr, diolch i nawdd y
sefydliadau canlynol. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac i rannu
syniadau â chi ac i gyd-drafod.
CALL FOR PAPERS
Closing Date for Submissions: 30 September 2013
We are currently seeking papers for the second Creative Industries
Postgraduate Conference Wales which will be held at Aberystwyth
University. This is a bilingual conference with two main aims: firstly,
to provide postgraduate students with an opportunity to present their
research in a constructive and supportive environment, and secondly, to
create a national community of postgraduate students in the field of
creative industries.
We invite paper submissions from students who are studying for MA, MA
through Research (MRes), MPhil or PhD degree.
We are eager to receive applications from students who are studying any
aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and
Performance in the context of Wales OR equally from students who are
researching any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New
Media, Theatre and Performance in an international context but
conducting research through the medium of Welsh.
We welcome papers in Welsh or English and particularly encourage
presentation in Welsh.
In addition to the paper presentations by postgraduate students, the aim
of the conference is to organise sessions which will give students the
opportunity to consider how to publish their research and how to
communicate their work to a wider audience. There will also be an
opportunity to meet leading academics in the field of the creative
industries who will be able to respond to your presentations and advise
you on your work, in order to support your development as early career
researchers.
Papers should be no more than 20 minutes in length. Please send
proposals of around 300 words, and a short biography, which states in
which year of your studies you are currently, to the following address:
(anr40 /at/ aber.ac.uk) Please also note your technical requirements for the
presentation of your paper.
The conference is supported by Coleg Cymraeg Cenedlaethol and
co-organised by Aberystwyth University, Bangor University, Swansea
University and the University of South Wales. Further information
regarding the timetable will be made available soon, but note that there
will not be a delegate fee for the conference and that refreshments will
be provided free of charge for all delegates. We look forward to hearing
from you, discussing your work and sharing ideas.
----------------
ECREA-Mailing list
----------------
This mailing list is a free service from ECREA.
---
To unsubscribe, please visit http://www.ecrea.eu/mailinglist
---
ECREA - European Communication Research and Education Association
Postal address:
ECREA
Universit�ibre de Bruxelles
c/o Dept. of Information and Communication Sciences
CP123, avenue F.D. Roosevelt 50, b-1050 Bruxelles, Belgium
Email: (info /at/ ecrea.eu)
URL: http://www.ecrea.eu
----------------
[Previous message][Next message][Back to index]