CYNHADLEDD CYFRWNG 2010
Prifysgol Y Drindod, Caerfyrddin
6 - 7 Mai 2010
GALWAD AM BAPURAU
www.cyfrwng.com
?LLEISIAU?
Mae Cynhadledd Cyfrwng yn gyfle i academyddion,
myfyrwyr ac ymarferwyr cyfryngol drafod pynciau
allweddol sydd yn wynebu?r cyfryngau yng
Nghymru. Croesawir Cyfrwng 2010 i Goleg
Prifysgol Y Drindod yng Nghaerfyrddin, ac
estynnir gwahoddiad am bapurau ar gyfer y gynhadledd hon ar y thema ?Lleisiau?.
Yn ôl ein harfer, y mae Cyfrwng yn rhoi llwyfan
i?r meysydd canlynol: Ffilm, Teledu, Radio,
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau Newydd a Theatr a
Pherfformio. Ar wahân i?r papurau a gyflwynir
gan unigolion cynhelir darlithiau cyweirnod a
thrafodaethau bord gron ? cyhoeddir enwau?r prif siaradwyr yn fuan.
Croesewir awgrymiadau am bapurau sy?n trafod
unrhyw agwedd ar thema?r gynhadledd, boed yn
drafodaethau hanesyddol, theoretig, dadansoddol,
ymarferol neu?n astudiaeth o bolisïau. Gellir
ymdrin â?r thema mewn sawl modd gwahanol, er
enghraifft lleisiau newydd, y llais unigol, y
lleisiau na chlywir mohonynt, lleisiau amgen,
technoleg a?r llais, llais a phlwraliaeth, neu
leisiau?r gorffennol. Gellir hefyd gyfuno
meysydd gan gynnwys gwleidyddiaeth, hanes,
economi, ieithoedd, cerddoriaeth ac yn y blaen.
Yn ogystal â phapurau yn adlewyrchu ar brif
thema'r gynhadledd, croesawir awgrymiadau ar
gyfer sesiynau atodol yn edrych yn benodol ar
rôl cynhyrchu cyfryngol ym maes ysgolheictod.
Gallai'r sesiynau hyn fod ar ffurf papur
academaidd, trafodaeth bord gron, gweithdy neu
ddangosiad o waith creadigol. Croesewir hefyd
bapurau fydd yn cynnig cymariaethau rhwng Cymru
a chenhedloedd eraill, a, thra bydd pwyslais y
gynhadledd ar Gymru, ni fydd yn diystyru?r
tirlun ehangach o fewn Y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Ni ddylai papurau fod mwy na 20 munud o hyd.
Dylid anfon crynodeb sydd rhwng 200?300 o eiriau
ynghyd â bywgraffiad byr i?r cyfeiriad isod erbyn 31 Ionawr 2010.
Fe gysylltir â?r ymgeiswyr llwyddiannus cyn diwedd Chwefror 2010.
Dylid anfon y ceisiadau at:
Non Vaughan Williams
Ysgol Theatr, Cerdd a?r Cyfryngau
Coleg Prifysgol Y Drindod
Caerfyrddin
SA31 3EP
01267 67 66 41 <mailto:(N.V.Williams /at/ drindod.ac.uk)>(N.V.Williams /at/ drindod.ac.uk)
CYFRWNG 2010 CONFERENCE
Trinity University College, Carmarthen
6 - 7 May 2010
CALL FOR PAPERS
www.cyfrwng.com
?VOICES?
The annual Cyfrwng conference is an opportunity
for academics, students and media practitioners
to deliberate key issues relating to the media
in Wales. Cyfrwng 2010 is hosted by Trinity
University College Carmarthen, and a call for papers is herewith distributed.
?Voices? has been chosen as the generic theme
for the 2010 event, providing a platform for the
following fields of study: Film, Television,
Radio, Journalism, New Media and Theatre and
Performance. Individual papers, keynote lectures
and round-table discussions are to be scheduled,
with the names of keynote speakers being announced in the near future.
Papers discussing any aspect of the conference
theme are welcomed, including historical,
theoretical, analytical, practical or
policy-making discussions. The theme clearly
offers a variety of interpretations, for
example: new voices, the individual voice,
voices of the unheard, alternative voices,
technology and the voice, voice and plurality,
or voices from the past. Other subject areas may
also be combined with that of the study of media
in Wales such as politics, history, economics, languages, music etc.
In addition to papers reflecting upon the main
theme of the conference, we would welcome
suggestions for supplementary sessions looking
specifically at the role of media production
within academia. Sessions could include academic
papers, round-table discussions, workshops or
screenings of creative work. Papers drawing
comparisons between Wales and other nations will
be welcomed, and, whilst the emphasis of the
conference is on Wales, wider contexts of the UK
and further afield will not be disregarded.
Papers should not be more than 20 minutes in
length. Please send an abstract of between
200-300 words together with a short biography to
the address below before 31 January 2010.
Successful applicants will be notified before the end of February 2010.
Please send the abstracts to:
Non Vaughan Williams
Theatre, Music and Media School
Trinity University College
Carmarthen
SA31 3EP
01267 67 66 41
<mailto:(N.V.Williams /at/ trinity-cm.ac.uk)>(N.V.Williams /at/ trinity-cm.ac.uk)
Dr Gwenno Ffrancon
Uwch Ddarlithydd
Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol
Ystafell 406
Adeilad Keir Hardie
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
01792 602396
<mailto:(g.ffrancon /at/ abertawe.ac.uk)>(g.ffrancon /at/ abertawe.ac.uk)
http://www.swan.ac.uk/staff/academic/Arts/ffrancong/
*********
Dr Gwenno Ffrancon
Senior Lecturer
Political and Cultural Studies
Room 406
Keir Hardie Building
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP
01792 602396
<mailto:(g.ffrancon /at/ swansea.ac.uk)>(g.ffrancon /at/ swansea.ac.uk)
http://www.swan.ac.uk/staff/academic/Arts/ffrancong/