[Previous message][Next message][Back to index]
[ecrea] Call for papers - Creative Industries Postgraduate Conference Wales
Fri Jul 06 06:57:01 GMT 2012
Creative Industries
Postgraduate Conference Wales
21 September 2012
Atrium, Glamorgan University
CALL FOR PAPERS
Closing Date for Submissions: 20 July 2012
We are currently seeking papers for the first Creative Industries 
Postgraduate Conference Wales which will be held in the Atrium, 
University of Glamorgan, Cardiff. This is a bilingual conference with 
two main aims, which are to give postgraduate students an opportunity to 
present their research in a constructive and supportive environment, and 
secondly, as means to create a national community of postgraduate 
students within the creative industries.
We invite paper submissions from students who are studying towards a MA, 
MA through Research (MRes), MPhil or PhD degree.
We are eager to receive applications from students who are studying any 
aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New Media, Theatre and 
Performance in the context of Wales OR if you are a student who is 
researching any aspect of Film, Television, Radio, Journalism, New 
Media, Theatre and Performance in an international context but writing 
your research thesis through the medium of Welsh.
We therefore welcome paper proposals in the Welsh or English language.
In addition to the paper presentations by postgraduate students, the aim 
of the conference is to organise sessions which will give students the 
opportunity to consider how to publish their research and how to make 
their work relevant to a wider audience. There will also be an 
opportunity to meet leading academics in the field of the creative 
industries who will be responding to your presentations and advising you 
on your work, in order to support your development as young researchers.
The best paper presented during the conference will be considered for 
publishing in either Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn Cyfryngau 
Cymru or in the Coleg Cymraeg Cenedlaethol journal Gwerddon. Further 
information on this opportunity will be made available soon.
Papers should be no more than 20 minutes in length. Please send 
proposals of around 300 words, and a short biography, which states in 
which year of your studies you are currently, to the following address: 
(e.price /at/ swansea.ac.uk) Please also note your technical requirements for 
the presentation of your paper.
The conference is co-organised by Swansea University, Aberystwyth 
University and Glamorgan University. Further information regarding the 
timetable will be made available soon, but note that there will not be a 
delegate fee for the conference and that refreshments will be provided 
free of charge for all delegates, due to funding from the following 
organisations.
We look forward to hearing from you, sharing ideas and discussing your 
work with you.
Cynhadledd Myfyrwyr Ôl-radd
Diwydiannau Creadigol Cymru
21 Medi 2012
Atrium, Prifysgol Morgannwg
GALWAD AM BAPURAU
Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 20 Gorffennaf 2012
Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer cynhadledd gyntaf Myfyrwyr ôl-radd 
Diwydiannau Creadigol Cymru a gynhelir yn yr Atrium, Prifysgol 
Morgannwg, Caerdydd. Cynhadledd ddwyieithog yw hon ag iddi ddau brif 
nod, sef rhoi cyfle i ôl-raddedigion gyflwyno ffrwyth eu hymchwil a 
hynny mewn awyrgylch gefnogol ac adeiladol, ac yn ail, bydd yn fodd o 
greu cymuned genedlaethol o fyfyrwyr ôl-radd ym maes y diwydiannau 
creadigol.
Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion ifanc sydd yn astudio tuag at 
radd MA, MA trwy ymchwil, MPhil neu PhD.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd yn astudio unrhyw 
agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, 
Theatr a Pherfformio yng nghyd-destun Cymru NEU os ydych yn fyfyriwr 
sydd yn edrych ar unrhyw agwedd ar Ffilm, Teledu, Radio, 
Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio mewn cyd-destun 
rhyngwladol ac yn llunio eich traethawd ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.
Croesewir, felly, bapurau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Yn ogystal â llwyfannu cyflwyniadau papurau gan fyfyrwyr ôl-radd, nod y 
gynhadledd yw trefnu sesiynau a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwil 
ystyried sut i fynd ati i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil, a sut i wneud yr 
ymchwil yn berthnasol i gynulleidfa ehangach. Bydd cyfle hefyd i gwrdd 
ag academyddion blaenllaw ym maes y diwydiannau creadigol a fydd yn 
ymateb i'ch cyflwyniadau ac yn eich cynghori er mwyn cefnogi'ch 
datblygiad fel ymchwilydd ifanc.
Bydd papur gorau’r gynhadledd hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer ei 
gyhoeddi yng nghyfnodolyn Cyfrwng: Media Wales Journal – Cyfnodolyn 
Cyfryngau Cymru neu gyfnodolyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon. 
Darperir mwy o fanylion am y cyfle hwn maes o law.
Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd. Danfonwch gynigion o 
oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr 
sydd yn nodi ym mha flwyddyn o’ch hastudiaeth yr ydych ar hyn o bryd, 
i'r cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: (e.price /at/ abertawe.ac.uk) Nodwch 
hefyd unrhyw adnoddau fydd eu hangen arnoch er mwyn gallu cyflwyno'r papur.
Caiff y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol 
Aberystwyth a Phrifysgol Morgannwg. Darperir mwy o wybodaeth am amserlen 
y gynhadledd maes o law, ond noder na fydd tâl cofrestru ar gyfer y 
gynhadledd a bydd lluniaeth wedi'i ddarparu am ddim i bob cynadleddwr, 
diolch i nawdd y sefydliadau canlynol.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac i rannu syniadau â chi ac i 
gyd-drafod.
Branwen Lloyd
Academi Hywel Teifi
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
01792 295192
www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi
----------------
ECREA-Mailing list
----------------
This mailing list is a free service from ECREA.
---
To unsubscribe, please visit http://www.ecrea.eu/mailinglist
---
ECREA - European Communication Research and Education Association
Postal address:
ECREA
Université Libre de Bruxelles
c/o Dept. of Information and Communication Sciences
CP123, avenue F.D. Roosevelt 50, b-1050 Bruxelles, Belgium
Email: (info /at/ ecrea.eu)
URL: http://www.ecrea.eu
----------------
[Previous message][Next message][Back to index]